Sut ydw i’n newid fy iaith ddewisol i’r Gymraeg?
Ebyst llyfrgell
Ebostiwch library@caerdydd.ac.uk gyda’ch enw a’ch rhif côd bar llyfrgell a gofyn i iaith ddewisol eich cyfrif llyfrgell gael ei newid i’r Gymraeg.
LibrarySearch
- Mewngofnodwch i LibrarySearch
- Cliciwch ar eich enw yng nghornel uchaf y sgrîn ar y dde a dewis Fy Nghyfrif Llyfrgell:
- Cliciwch ar y tab 'Personal Details' (Manylion Personol):
- Dewiswch Cymraeg o’r gwymplen ieithoedd Diofyn ar y rhyngwyneb:
- Bydd LibrarySearch yn newid i’r Gymraeg a bydd eich iaith ddewisol yn cael ei chadw ar gyfer y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi:
Os oes angen mwy o help arnoch, siaradwch â staff unrhyw lyfrgell neu ebostio library@caerdydd.ac.uk.